Digwyddiadau

Loading Digwyddiadau

« All Digwyddiadau

  • This event has passed.

Gŵyl Bwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd

Gorffennaf 14 - Gorffennaf 16

Digwyddiad Navigation

Bydd hoff ŵyl fwyd am ddim y ddinas yn ôl 14-16 Gorffennaf ym Mae Caerdydd. Mae Gŵyl Bwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd yn ôl am flwyddyn arall o gynnyrch lleol a bwyd stryd i dynnu dŵr i ddannedd teuluoedd a charwyr bwyd!

Bydd dathliad gwreiddiol y ddinas o gynnyrch lleol a bwyd stryd danteithiol, Gŵyl Bwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd, yn ôl ym Mae Caerdydd 14-16 Gorffennaf. Paratowch am wledd at ddant teuluoedd a charwyr bwyd!

Galwch heibio i’r ŵyl fwyd am ddim fwyaf yng Nghymru, lle y bydd mwy na 100 o gynhyrchwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn arddangos eu cynnyrch. Gall ymwelwyr grwydro’r stondinau yn Ffair y Cynhyrchwyr, tynnu dŵr i’r dannedd drwy flasu’r samplau blasus, a phrynu amrywiaeth o fwyd a diod, gan gynnwys bara gwerinol, cawsiau organig a gwirodydd cartref ym Marchnad y Ffermwyr.

Eleni mae’r Bwyd Stryd Cymru gwreiddiol wedi dod i oed! A wyddech chi fod y digwyddiad hwn wedi rhoi llwyfan i fwyd stryd ers 18 mlynedd? Peidiwch â cholli’r cyfle i sglaffio peth o fwyd stryd gorau’r wlad yn y Plazza Bwyd Stryd. Gyda nifer o fariau, gan gynnwys y bar Siampên ar lan y dŵr, stondinau crefft a cherddoriaeth fyw, mae’n hawdd gweld pam fod y digwyddiad bwyd yn parhau yn un o seigiau mwyaf blasus Caerdydd dros yr haf.

Ffair Gynhyrchwyr a Marchnad Grefftau
Dydd Gwener: 12.00 – 21.00
Sadwrn: 11.00 – 21.00
Sul: 11.00 – 19.00

 

Marchnad Ffermwyr
Dydd Gwener: 12.00 -19.00
Sad & Sul: 11.00- 19.00

Piazza Bwyd Stryd
Dydd Gwener: 12.00 – 22.00
Sadwrn: 12.00 – 22.00
Sul: 12.00-19.00

Gweler map safle’r cynhyrchwyr isod!

Manylion

Cychwyn:
Gorffennaf 14
Gorffen:
Gorffennaf 16
Digwyddiad Categori:
, ,
Digwyddiad Tags:
, , , , , , , ,

Lleoliad

Roald Dahl Plass
Cardiff Bay
Cardiff, CF10 4PZ
+ Google Map