Croeso

Os ydych chi’n darllen hwn yn Gymraeg fe fyddem yn tybio eich bod yn gwybod llawer o’r hyn yr ydym am ei ddweud wrth y byd ar ein tudalennau yn Saesneg ac ieithoedd eraill.

Anelwyd y wefan hon at bobl sydd ag ychydig neu ddim gwybodaeth am Gaerdydd ac am Gymru.  Er mwyn rhoi gwybod i’r byd y tu hwnt i Gymru beth maen nhw yn ei golli a pham bod arnyn nhw angen dod i’n hadnabod yn well!

Ond, rydym hefyd yn sylweddoli bod siaradwyr Cymraeg yn byw tu allan i’r Deyrnas Unedig.  Felly, os ydych chi’n siarad Cymraeg ond yn byw tu allan I Gaerdydd, I Gymru, o dramor neu o’r Wladfa efallai, rydym yn gobeithio y byddwch yn dod o hyd i rywbeth o ddiddordeb yma hefyd.

Mae gennym ddiddordeb bob amser mewn clywed gan siaradwyr Cymraeg dramor gan eich bod mewn sefyllfa i’n helpu i ddeall pa mor dda y mae pobl yn adnabod Caerdydd a Cymru yn eich rhan chi o’r byd a pham.  Byddem yn hoffi cael gwybod pa wybodaeth yr ydych chi’n ei feddwl fyddai o ddiddordeb i bobl lle’r ydych chi’n byw fel ein bod yn gallu parhau i godi proffil rhyngwladol Caerdydd a Cymru.  Os ydych yn byw yn rhywle arall yn y byd mae croeso i chi [gysylltu] â ni i roi gwybod i ni sut y gallwn wella’r safle hwn neu ei gynnwys i helpu pobl i werthfawrogi ein  prifddinas wych gymaint ag yr ydym ni.